P-04-341 Gwastraff a Llosgi
Geiriad y Ddeiseb
Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i:
1. adolygu’r Prosiect Gwyrdd, sy’n mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru o ddarparu cyfleusterau yn lleol a chaniatáu i’n cynghorau ddewis eu systemau caffael eu hunain ar gyfer rheoli gwastraff a thechnoleg gwastraff;
2. adolygu’r arolwg diffygiol ar wastraff yng Nghymru a oedd yn rhoi dau ddewis yn unig i bobl ynghylch gwaredu gwastraff;
3. erbyn 2020, ei gwneud yn anghyfreithlon i losgi gwastraff y gellir ei ailgylchu gan y byddai hyn yn annog cynghorau i ailgylchu.
Cynigwyd gan: Terry Evans
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 15 Tachwedd 2011
Nifer y llofnodion: 21 (Casglwyd deiseb gysylltiedig 13,286 o lofnodion hefyd)